Cartref > Felin Bach

Lleolir Felin Bach, Pencadlys Girlguiding Sir Gaernarfon, yn ei choetir hyfryd ei hun ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri, chwarter milltir o bentref Caeathro. Lleoliad addas iawn ar gyfer teithiau cerdded trwy’r bryniau sydd hefyd yn agos i dref hanesyddol Caernarfon, gyda’i chastell canoloesol. Mae gan yr ardal ddigonedd o harddwch naturiol, ac atyniadau niferus o fewn hanner awr o deithio. Mae’r atyniadau hyn yn cynnwys ‘Bounce Below’ antur tanddaearol yng ngheudyllau llechi Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, ‘Skyride’ ym Metws-y-coed, Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd ger Bethel, a’r Wifren Wib Zip Wire hir ym Methesda.
Wedi’i leoli mewn safle cysgodol yn y goedwig, mae Felin Bach yn floc stabl carreg a drawsnewidiwyd i ddwy hostel gyfforddus o amgylch buarth â tharmac. Mae gan y buarth fynedfa dan do gyda giatiau metel ac ystafell fawr ar gyfer gweithgareddau. Mae’r ystafell weithgareddau hefyd yn cynnwys wal bowldro.
Mae carpedi trwy’r ddwy hostel, gydag ystafelloedd gwely arddull byncws gyda gwelyau bync. Mae gan bob hostel ystafell wely ar wahân ar gyfer arweinyddion, ystafell fwyta / amlbwrpas, ystafell gawod ddwbl, a 3 toiled fflysio. Mae Hostel Eryri wedi’i huwchraddio’n ddiweddar i gynnwys toiled anabl ar wahân, ystafell ymolchi ac ystafell gawod arall, felly yn caniatáu preswylio cymysg. Mae Hostel Seiont hefyd wedi’i huwchraddio’n ddiweddar gyda thoiled anabl ac ystafell gawod ar wahân, felly yn caniatáu preswylio cymysg. Mae gan yr ystafelloedd hyn wresogi tanlawr.
Mae’r ceginau yn cynnwys popty nwy chwe-llosgwr, meicrodon, oergelloedd a rhewgell ynghyd â thegellau, sosbenni, offer cegin, llestri, cyllyll a ffyrc ac ati. Mae gan bob gwely fatras gyda sbrings. Darperir cynfasau wedi'u gosod, gobenyddion a chasys gobennydd. Mae gwres canolog ym mhob ystafell ac eithrio’r ystafell weithgareddau. Mae stôf llosgi coed yn yr ystafelloedd amlbwrpas (gellir prynu coed tân gan y Warden). Mae trydan (pŵer a golau) yn cael ei gyflenwi trwy fesurydd sy’n cymryd darnau arian £1. Mae socedi pŵer 13amp trwy’r adeilad a WiFi ar gael. Darperir sugnwyr llwch hefyd.
Yn y goedwig mae ardal sydd â gweithgareddau addas ar gyfer plant ifanc, a hefyd man tân mawr. Tu hwnt i’r goedwig mae cae gwersylla mawr gyda chyflenwad o ddŵr. Mae bloc toiledau a chawodydd ar y cae ar gyfer ymwelwyr gwrywaidd a benywaidd. Mae toiled anabl ar wahân hefyd. Mae adeilad carreg ar y cae sydd yn cynnwys oergell a rhewgell, yn ogystal â portacabin y gellir ei ddefnyddio fel ystafell weithgareddau. Mae cylch tân mawr ar y cae.
Cysylltwch â Maggi Barry maggibarry@btinternet.com am wybodaeth ac i fwcio.