Amdanom Ni

Cartref > Amdanom Ni

Amdanom

Mae Girlguiding Sir Gaernarfon yn rhan o Girlguiding Cymru.
Lleolir Girlguiding Sir Gaernarfon yng Ngogledd Cymru, yn ymestyn o Landudno i Gaernarfon a thu hwnt. Mae gennym tua 50 o unedau yn ein hardal ni ar hyn o bryd ac rydym wastad yn croesawu rhagor o ferched i ymuno â ni! Mae gan y sir hon 4 rhanbarth, ac nid oes isranbarthau.  

Rydym yn cynnig lle i enethod a merched ifanc yn y Sir i fod yn nhw eu hunain, cael hwyl, meithrin cyfeillgarwch gwych, dysgu sgiliau bywyd gwerthfawr a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau a’u cymunedau. Rydym yn helpu merched i ddatblygu eu hyder a chodi eu dyheadau wrth roi cyfle iddynt gyflawni eu llawn botensial.

Comisiynydd y Sir: Sian Owen

Hanes

Mae Sir Gaernarfon, yng Ngogledd Cymru, yn cynnwys rhannau o siroedd newydd Gwynedd a Chonwy. Wedi’i rannu i bedwar rhanbarth – Dwyfor yn ne’r sir, Aberconwy a Llandeg Bay yn y gogledd ac Arfon yn y canol – mae Sir Gaernarfon yn ymestyn o’i arfordir creigiog gyda nifer o draethau eang a childraethau caregog, i gopa’r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru, ac mae gan bob rhanbarth gestyll hanesyddol.

Dechreuodd mudiad y Geidiaid yn Llandudno yn 1922. 1st Llandudno Guides yw’r uned hynaf yn y sir.

Rainbows

Brownies

Guides

Rangers

Yn yr adran yma: